Amdanom ni

Mae’r Ysgol Sadwrn Ffinneg yng Nghaerdydd yn elusen ddielw sy’n cael ei noddi gan Weinyddiaeth Addysg a Diwylliant y Ffindir. Rydym ni’n cynnal sesiynau dysgu Ffinneg drwy chwarae ar gyfer plant, a dosbarthiadau iaith mwy difrifol i ddysgwyr sy’n oedolion. Mae’r dosbarthiadau yn agored i unrhyw un sydd â diddordeb yn iaith neu ddiwylliant y Ffindir.

Mae ein safle yn Capel Salem yn Nhreganna ar Market Road – ar bwys Chapter Arts Centre. Mae lle ar gyfer tua 10 car ym maes parcio’r eglwys ac mae’n hawdd parcio ar yr heolydd cyfagos.

Capel Salem
Market Road
Canton
Cardiff
CF5 1QE

Ar hyn o bryd, mae’r Suomi-koulu (Ysgol Ffinneg) yn cynnwys pedwar grwp: cylch ti a fi, Suomi-koulu ar gyfer plant 4-8 oed, Suomi-koulu ar gyfer plant 8+ oed a dau dosbarthiadau dechreuwyr ar gyfer oedolion.

 

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *